Text Box: Dr. Emyr Roberts
 Prif Weithredwr
 Cyfoeth Naturiol Cymru

 

29 Hydref 2015

Annwyl Emyr,

Cyfoeth Naturiol Cymru - Craffu Blynyddol 2015

I ymateb i'ch llythyr dyddiedig 7 Awst 2015, er fy mod yn ddiolchgar am yr ymateb mwy sylweddol i'n casgliadau, nid wyf yn cytuno â'ch beirniadaeth o'r broses a ddilynwyd gennym.

Ymddengys eich bod wedi camddeall pwrpas ein gwaith, a'i bwyslais ar farn rhanddeiliaid. Cysylltwyd ag ystod eang a chytbwys o randdeiliaid ac roedd yr ymgynghoriad yn un cyhoeddus, hy roedd yn agored i unrhyw sefydliad neu unigolyn gyflwyno ymateb. Fe welwch ein bod, yn y sesiynau tystiolaeth lafar a gynhaliwyd, wedi clywed sylwadau gan ystod eang o sectorau gan gynnwys cynrychiolwyr busnesau, ymgymerwyr statudol, undebau ffermio, parciau cenedlaethol, sefydliadau amgylcheddol a sefydliadau pysgodfeydd.

Mae'r enghraifft o ddull amgen a ddarperir gennych yn eich llythyr yn wahanol iawn i'n gwaith ni, o ran cwmpas a phwrpas. Ymhellach, mae'r enghraifft a gynigiwyd gennych yn rhan o broses a gomisiynir yn fewnol ac nid un a gynhelir gan gorff cwbl annibynnol.

Nid ein bwriad oedd cynnal archwiliad o drefniadau rheoli corfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae opsiynau eraill ar gael inni pe baem yn dymuno canolbwyntio ar hyn. Yn hytrach, fel cynrychiolwyr etholedig, roeddem yn awyddus i roi llais a chyfle i'n rhanddeiliaid roi tystiolaeth o'u profiad o weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r Pwyllgor yn glynu wrth ei gasgliadau. Wrth lunio'r casgliadau hyn, nodwyd yr ymatebion cadarnhaol a gawsom, yn ogystal â'r pryderon dilys a godwyd gan lawer o bartneriaid cyflawni allweddol Cyfoeth Naturiol Cymru. Gobeithio, pan fyddwn yn dychwelyd at y gwaith hwn, y cawn ddarlun mwy cadarnhaol.

Deallaf fod Clerc y Pwyllgor wedi dechrau trafodaethau â'ch staff am amseriad gwaith craffu yn y dyfodol cyn i chi anfon eich llythyr ym mis Awst. Mae'n werth ailadrodd bod Clerc y Pwyllgor a minnau yn barod i drafod gwaith y Pwyllgor gyda chi neu eich staff os bydd angen unrhyw eglurhad arnoch yn y dyfodol.

Yn gywir

Description: P:\OPO\Committees\Committees (2011-2016)\Env & Sustainability\Correspondence\Chair's correspondence\Alun Ffred Jones sig.jpg

Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.